Thomas Stanley, iarll cyntaf Derby

Thomas Stanley, iarll cyntaf Derby
Ganwyd1 Ionawr 1435 Edit this on Wikidata
Lathom Edit this on Wikidata
Bu farw29 Gorffennaf 1504 Edit this on Wikidata
Swydd Gaerhirfryn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
TadThomas Stanley Edit this on Wikidata
MamJoan Goushill Edit this on Wikidata
PriodMargaret Beaufort, Eleanor Neville Edit this on Wikidata
PlantGeorge Stanley, James Stanley, Edward Stanley, 1st Baron Monteagle Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Gardas Edit this on Wikidata

Uchelwr cyfoethog a thad-gwyn Harri Tudur oedd Thomas Stanley (143529 Gorffennaf 1504), iarll cyntaf Derby, a Brenin Manaw (yr olaf i ddefnyddio'r enw). Ef oedd mab hynaf Thomas Stanley, barwn cyntaf Stanley a Joan Goushill. Drwy ei fam, roedd yn un o ddisgynyddion Edward I (drwy Elisabeth o Ruddlan), Iarlles Henffordd a thrwy deulu FitzAlan roedd yn ddisgynnydd Harri III. Priododd Eleanor, merch yr Iorcydd Richard Neville, 5ed iarll Salisbury yn gyntaf; roedd hi'n chwaer i Richard Neville, iarll Warwick ("Y Gwneuthurwr Brenhinoedd"). Yna, yn 1472 priododd Margaret Beaufort, mam Harri Tudur, wedi iddi golli ei gŵr cyntaf Edmwnd Tudur oedd o deulu Cymreig, a Lancastriad i'r carn.

Roedd yn dirfeddianwr pwerus a chyfoethog, ac roedd y rhan fwyaf o'i diroedd yng ngogledd-orllewin Lloegr ble gweithredai fel brenin ar adegau, heb neb yn meiddio'i wrthwynebu. Y nodwedd bwysicaf ohono efallai yw iddo gadw'i ben - a chadw perthynas dda gyda sawl brenin drwy gydol Rhyfel y Rhosynnau, tan iddo farw yn 1504. Roedd ei diroedd yn cynnwys y mannau a elwir heddiw yn Tatton Park (Swydd Gaer), Lathom House (Swydd Gaerhirfryn) a Derby House yn ninas Llundain; ef hefyd oedd siambrlen Gogledd Cymru.

Disgrifir ef ym Mywgraffiadur Rhydychen fel dyn o allu a gweledigaeth miniog, a mwy na thebyg y dyn mwyaf pwerus o'i oes.[1]

Gyda'i frawd William, ar y funud olaf, ochrodd gyda Harri Tudur ym Mrwydr Bosworth, a dywed Vergil mai Thomas Stanley a gododd goron Richard II o'r llawr a'i roi ar ben Harri Tudur.

  1. Cyfieithiad o: Stanley was “a man of considerable acumen, and probably the most successful power-broker of his age”. Oxford Dictionary of National Biography. 2004.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy